Gwneud taliad - Gwrit yr Uchel Lys
Gwneud Taliad - Arall
Cwestiynau Cyffredin
Ein Ffioedd a'n Taliadau
- Llysoedd Ynadon
- Traffig a Pharcio
- Gwasanaethau Masnachol
- Yr Uchel Lys
- Treth Cyngor ac Ardrethi Annomestig
Mae ein cwestiynau cyffredin wedi'u cynllunio i'ch cynorthwyo i ad-dalu eich dyled.
Mae Marston Group yn gwerthfawrogi y gall y broses achosi straen sylweddol, felly cynigir ein profiad a'n gwybodaeth i'ch cynorthwyo :
Mae Marston Group wedi cysylltu â mi. A oes modd cael mwy o amser i dalu?
Mae gennyf wrthwynebiad yn ymwneud â'r drosedd/tramgwydd/dyled. Beth allaf ei wneud?
Credaf fy mod eisoes wedi talu'r ddyled/cosb/dirwy yn llawn. Beth allaf ei wneud
Nid wyf bellach yn berchen ar y cerbyd sy'n ymwneud â'r drosedd/tramgwydd. Beth allaf ei wneud
'Beth yw'r gwahaniaeth rhwng asiant gorfodi a Swyddog yr Uchel Lys?
Yr wyf wedi cael llythyr gan Marston Group wedi'i gyfeirio at rywun nad yw'n byw yn fy nghyfeiriad. Beth ddylwn i wneud?
Os nad chi yw'r sawl y mae'r llythyr wedi'i gyfeirio ato, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni yn syth. Dylech anfon copi o fil am wasanaethau (er enghraifft, nwy/trydan/dŵr) atom, neu gytundeb tenantiaeth presennol yn eich enw, fel prawf o ddeiliadaeth. Gellir anfon y wybodaeth trwy'r:
post - Marston Group Ltd, Blwch Post 308, Waltham Cross, EN9 1ZN; neu'r
ffacs - 01992 703 703; neu
Anfonwch gopi o'r llythyr a gawsoch gan Marston Group hefyd, os gwelwch yn dda.
Nid yw'r gyfraith yn mynnu eich bod yn darparu'r wybodaeth hon, ond gall gwneud hyn atal gohebiaeth bellach rhag cael ei anfon i'ch cyfeiriad.
Os ydych yn gwybod cyfeiriad presennol neu rif ffôn y sawl y mae'r llythyr wedi'i gyfeirio ato, bydd eich cymorth o ran darparu'r wybodaeth hon yn lleihau'r posibilrwydd o gredydwyr eraill yn ysgrifennu at eich cyfeiriad.
Mae Marston Group wedi cysylltu â mi . A oes modd cael mwy o amser i dalu?
Yn anffodus, ni fydd hyn yn bosibl. Fwy na thebyg, bydd y ddyled heb ei thalu ers tro, a byddai cyfle i wneud trefniant talu wedi bod ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Mae ein cleient bellach wedi cael gorchymyn/gwarant llys ac rydym wedi cael ein cyfarwyddo i atafaelu nwyddau er mwyn adennill y ddyled.
Ni allwn gynnig trefniadau talu tymor hir, fodd bynnag, efallai y gallwn gynnig estyn eich dyddiad cau am daliad, yn dibynnu ar yr achos. Mae'r Asiantau yn ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar gael i drafod y dewisiadau ar gyfer estyniad cyfyngedig. Os gwelwch yn dda, ffoniwch: 0845 074 3749.
Mae gennyf wrthwynebiad yn ymwneud â'r drosedd/tramgwydd/dyled a wnaeth arwain at arwyddo gwarant/gorchymyn yn fy erbyn. Beth allaf ei wneud?
Mae Marston Group wedi cael gorchymyn neu warant, ac felly, mae'r amser a ganiatawyd i wrthwynebu'r ddyled/cosb/dirwy wreiddiol wedi dod i ben. Mae adennill y ddyled sydd heb ei thalu bellach wedi cyrraedd y cam gorfodi.
Mae'n rhaid anfon unrhyw wrthwynebiad yn ymwneud â'r ddyled neu ddilysrwydd y gorchymyn neu warant at y credydwr (ein cleient). Os bydd gennych dystiolaeth sy'n profi eich bod eisoes wedi talu'r ddyled yn llawn, yna bydd yn rhaid anfon y dderbynneb atom ni, trwy'r:
post - Marston Group Ltd, Blwch Post 308, Waltham Cross, EN9 1ZN; neu'r
ffacs - 01992 703 703; neu
Ni all Marston Group gynorthwyo na gwneud sylwadau yn ymwneud â'r ddyled, y tramgwydd, y drosedd neu'r ddirwy wreiddiol. Dylid cyfeirio unrhyw wrthwynebiad at y credydwr.
Credaf fy mod eisoes wedi talu'r ddyled/cosb/dirwy yn llawn. Beth allaf ei wneud?
Dylid anfon tystiolaeth bod taliad wedi'i wneud atom yn syth er mwyn cadarnhau'r taliad blaenorol. Mae ein cofnodion yn dangos fod y ddyled yn dal heb ei thalu, felly bydd angen i ni ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych yn gallu darparu tystiolaeth bod taliad wedi'i wneud, bydd y ddyled yn parhau fel dyled heb ei thalu.
Efallai y gallwn eich cynorthwyo os gallwch ddarparu copi o flaen a chefn y siec talu. Gallwch ofyn i'ch banc am gopi.
Nid wyf bellach yn berchen ar y cerbyd sy'n ymwneud â'r drosedd/tramgwydd. Beth allaf ei wneud?
Cafodd y warant ei harwyddo oherwydd mae cofnodion yn dangos mai chi oedd perchennog y cerbyd ar adeg y drosedd/tramgwydd. Gellir gorfodi'r warant yn eich erbyn, ac nid yw wedi'i chyfyngu i nac yn ymwneud â'r cerbyd oedd yn destun y drosedd. Caiff gwrthwynebiadau i'r gosb/ddirwy wreiddiol eu trafod ym mhwynt 3 uchod.
Beth yw pwerau asiantau gorfodi (beilïaid)?
Mae holl asiantau gorfodi Marston Group wedi'u hawdurdodi gan y gyfraith i orfodi gwarantau/gorchmynion ar ran ein credydwyr. Mae'r awdurdod hwnnw yn deillio o'r warant, y gorchymyn atebolrwydd neu writ yr Uchel Lys.
Bydd ei hasiantau yn barod bob amser i ddangos cerdyn adnabod y cwmni a llun ar gais, yn ogystal â'u tystysgrif o'r Llys Sirol. Mae gennym hawl i fynd i mewn i'ch eiddo yn heddychlon trwy ffenestr neu ddrws agored (blaen a chefn yr eiddo), neu trwy ddringo dros ffensys neu gatiau.
Y peth gorau yw i chi ganiatáu i'n hasiant ddod i mewn i'ch eiddo, i asesu eich sefyllfa, oherwydd gorau po gyntaf y gwneir cyswllt â ni er mwyn hwyluso'r broses o dalu eich dyled. Os byddwch yn anwybyddu ein hasiant, byddwn yn hysbysu ein cleient, ac efallai y gwnaiff geisio cymryd camau cyfreithiol pellach.
Wrth orfodi gwrit yr Uchel Lys, bydd gan swyddog gorfodi hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i eiddo busnes. Yn yr un modd, wrth orfodi gwarant atafaelu o lys ynadon, bydd asiant gorfodi wedi'i awdurdodi i ddefnyddio grym rhesymol i fynd i mewn i eiddo er mwyn gweithredu'r warant. Caiff y pwerau hyn eu defnyddio pan fydd hynny'n rhesymol a phriodol yn unig, gydag awdurdod blaenorol ein cleient.
Dylech fod yn ymwybodol na chaiff eich dyled ei chanslo na'i hanwybyddu, a bydd taliad ychwanegol bob tro y bydd ein hasiant yn ymweld â chi - felly bydd eich dyled yn cynyddu.
Mae ein hasiantau wedi'u hyfforddi i drafod telerau rhesymol a derbyniol. Mae'n rhaid cadw'n gaeth at delerau unrhyw gynllun ad-dalu, oherwydd gall torri'r cytundeb hwn arwain at ein hasiantau yn dychwelyd i'r eiddo i gael taliad llawn/cymryd nwyddau. Bydd hyn yn arwain at daliadau pellach.
Mae ein hasiantau wedi'u hawdurdodi gan y gyfraith i atafaelu a chymryd unrhyw nwyddau o werth sy'n eiddo i'r sawl sydd mewn dyled, a'u gwerthu mewn arwerthiant cyhoeddus i dalu'r ddyled.
Mae Marston Group yn ystyried mai cymryd nwyddau yw'r dewis olaf, oherwydd mae'n well gennym gasglu taliad llawn; fodd bynnag, bydd nwyddau yn cael eu cymryd oni ellir cytuno ar delerau talu derbyniol. Ni chaniateir cynllun talu oni fydd yr asiantaeth gorfodi sy'n bresennol yn ystyried fod hynny'n angenrheidiol.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng asiant gorfodi a Swyddog yr Uchel Lys?
Bydd asiant gorfodi ardystiedig yn gweithredu ar ran llysoedd ynadon ac awdurdodau lleol ac yn gorfodi gwarantau atafaelu, gwarantau i weithredu a gorchmynion atebolrwydd.
Mae Swyddog Gorfodi'r Uchel Lys wedi'i awdurdodi gan yr Arglwydd Ganghellor i orfodi gwritiau'r Uchel Lys.
Mae Marston Group yn mynnu fod ei asiantau gorfodi yn gweithredu yn unol â'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Asiantau Gorfodi sydd wedi'u cyhoeddi gan yr Arglwydd Ganghellor. Mae hyn yn cynnwys:
gweithredu o fewn eu hawl gyfreithiol i fynd mewn i eiddo i atafaelu nwyddau er mwyn sicrhau taliad ar gyfer dyled heb ei thalu/gorchymyn atebolrwydd/gwarant
dangos dogfen adnabod berthnasol ar gais
gweithredu o fewn terfynau'r gyfraith bob amser
peidio defnyddio grym anghyfreithlon i gael nwyddau
paratoi stocrestr o'r holl nwyddau a atafaelwyd a'i rhoi i'r dyledwr neu ei gadael yn yr eiddo
peidio gwahaniaethu ar unrhyw sail, yn cynnwys oedran, anabledd, ethnigrwydd, rhyw, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol
gwneud asesiad risg bob tro y byddant yn mynd mewn i eiddo dyledwr, yn enwedig os bydd y dyledwr yn bygwth trais neu wedi bygwth hynny
rhoi cyfrif am y nwyddau a werthir
